Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg
Ar ôl treulio cyfnod o ugain mlynedd yn byw yn America a Lloegr, dychwelodd Pam i’w milltir sgwâr yn Sir Ddinbych. Roedd tri rheswm dros ei hawydd i ddod yn ôl - hiraeth am Gymru, yr awydd i’w phlant gael eu magu yn yr iaith a derbyn addysg Gymraeg, a’i huchelgais i ddatblygu ei gyrfa fel athrawes ieithoedd modern.
Wyth mis yn unig ar ôl symud yn ôl i Gymru, penderfynodd Pam, o Lanrhaeadr, fentro dilyn cwrs i ddatblygu ei sgiliau iaith Gymraeg. Dyma rai o’i hargraffiadau ar ôl iddi orffen y cwrs sydd wedi’i anelu at athrawon, darlithwyr ac aseswyr.
Enw: Pamela Mary Bishop
Swydd: Athrawes Ieithoedd Modern
Cwrs: Cwrs Uwch Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol, Prifysgol Bangor
Pam wnest ti gofrestru i wneud y cwrs?
Roeddwn i eisiau gwella fy sgiliau a fy nefnydd o’r iaith. Roedd yn gyfle i adolygu a chael fy atgoffa am reolau gramadeg Cymraeg. Roeddwn i’n gobeithio y byddai’r cwrs yn fy helpu i ddefnyddio’r iaith yn fwy hyderus mewn sefyllfaoedd ffurfiol a phroffesiynol. Byddai cyflwyno sesiynau micro ddysgu yn gyfle gwych i ymarfer iaith y dosbarth. Doeddwn i ddim wedi ysgrifennu dim byd yn Gymraeg er 1987, felly roedd fy sgiliau braidd yn rhydlyd!
Wnest ti elwa ar y profiad?
Y peth sydd yn rhaid ei ddweud yw fy mod i wedi cael swydd yn dysgu mewn ysgol ddwyieithog leol ac rydw i’n defnyddio'r iaith Gymraeg bob dydd rŵan. Ni fuasai hyn wedi bod yn bosibl heb i mi ddod ar y cwrs yma! Cyn y cwrs, roedd diffyg hyder a gwybodaeth angenrheidiol fel wal wydr yn fy rhwystro rhag gwireddu fy mreuddwyd; sef cael swydd addysgu yma yng Nghymru.
Ydy’r ysgol sy’n dy gyflogi wedi elwa ar dy sgiliau newydd?
Do, yn sicr. Rydw i erbyn hyn yn gallu addysgu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Rwy’n marcio llyfrau, rhoi adborth ar waith disgyblion ac yn ysgrifennu adroddiadau yn Gymraeg. Ni fuasai’r tasgau hyn wedi bod yn bosibl i mi ar ddechrau’r cwrs. Ysgol ddwyieithog ydy Brynhyfryd, ac rwy’n credu fy mod i bellach yn aelod effeithiol o’r tîm sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar bob lefel.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs uwch y buodd Pam arno, cysylltwch â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor am fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol gyda’r tiwtoriaid. Rydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer y cwrs nesaf fydd yn cael ei gynnal rhwng 11 Ebrill a 8 Gorffennaf, 2016.
E-bost: cynllunsabothol@bangor.ac.uk neu ar y ffôn: 01248 383293
Mae manylion y cyrsiau hefyd ar y wefan: www.cynllunsabothol.org.uk
Am ragor o fanylion cysylltwch â thîm y Cynllun Sabothol ym Mhrifysgol Bangor.