Newyddion
Gwireddu breuddwyd drwy sicrhau swydd yn lleol
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2015
Ar ôl treulio cyfnod o ugain mlynedd yn byw yn America a Lloegr, dychwelodd Pam i’w milltir sgwâr yn Sir Ddinbych. Roedd tri rheswm dros ei hawydd i ddod yn ôl - hiraeth am Gymru, yr awydd i’w phlant gael eu magu yn yr iaith a derbyn addysg Gymraeg, a’i huchelgais i ddatblygu ei gyrfa fel athrawes ieithoedd modern.
Datblygu iaith yn arwain at ddatblygu gyrfa: stori Nia
Dyddiad cyhoeddi: 15/09/2015
Ddechrau’r haf cafodd yr athrawes Nia Daly o Landrillo yn Rhos ei chyflwyno â thystysgrif go arbennig – am gwblhau cwrs i ddatblygu ei sgiliau iaith Gymraeg yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Cyhoeddi enw enillydd
Dyddiad cyhoeddi : 21/05/2013
Diolch i bob athro a lenwodd ein holiadur athrawon y tymor diwethaf. Rydyn ni’n falch o gyhoeddi mai’r unigolyn lwcus sy’n ennill pecyn iaith Canolfan Bedwyr ydy Cleo Thomas-Jones. Mae Cleo’n dysgu Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bydd yn derbyn CD Cysgliad (sy’n cynnwys Cysgeir a Cysill) a Llawlyfr Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr. Llongyfarchiadau Cleo!
Cwrs i'w gyflwyno yn y Gogledd Ddwyrain
Dyddiad cyhoeddi : 10/01/2012
Mae'r Adran Addysg a Sgiliau wedi cadarnhau heddiw y bydd Prifysgol Bangor yn cyflwyno'r cwrs byr lefel uwch yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ym mis Ebrill.
am ragor o fanylion cysylltwch â thîm Bangor...
Gweinidog yn ymweld â chanolfan sy’n gefn i’r Gymraeg
Dyddiad cyhoeddi: 18/11/2011
Roedd y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn un o nifer o brojectau arloesol y cafodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, gyfle i ddysgu mwy amdanynt wrth iddo ymweld â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn ddiweddar (17 Tachwedd 2011).
Buddsoddi yn y Cynllun Sabothol Cenedlaethol
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2011
Caiff cyfraniad Prifysgol Caerdydd i gynllun i wella safonau o ran addysgu a dysgu cyfrwng Cymraeg ac sydd werth nifer o filiynau o bunnoedd ei lansio gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, heno (13 Hydref). Mae’r Cynllun Sabothol iaith Gymraeg yn gwrs a gynlluniwyd ar gyfer athrawon, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth sydd eisiau codi safon eu Cymraeg a magu hyder o ran defnyddio’r iaith.