Cyrsiau

Cwrs Uwch

Mae tair ffordd wahanol o ddilyn cwrs uwch y Cynllun Sabothol:

Cwrs Bloc
Mae'r cwrs bloc yn cael ei gynnig yn llawn amser, wyneb yn wyneb, dros gyfnod o dri mis.

Mae'r cwrs wedi'i achredu fel modiwl 60 credyd ar lefel 6 (Addysg Uwch).

Cwrs Dysgu o Bell
Mae'r cwrs Dysgu o Bell yn cynnwys 12 diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Bangor dros gyfnod o dri mis, gyda rhan fwyaf y dysgu'n digwydd ar-lein.

Mae'r cwrs wedi'i achredu fel modiwl 40 credyd ar lefel 6 (Addysg Uwch).

Cwrs Byr
Mae'r cwrs yn cynnwys 20 diwrnod o hyfforddiant dros gyfnod o dri mis.

Mae'r cwrs wedi'i achredu fel modiwl 30 credyd ar lefel 6 (Addysg Uwch).


Cwrs Sylfaen

Cwrs dwys llawn-amser dros gyfnod o 11 wythnos yw’r cwrs Sylfaen. Mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu ar gyfer athrawon sy'n dysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.


Cwrs Mynediad

Cwrs dwys llawn-amser dros gyfnod o 5 wythnos yw’r cwrs Mynediad. Mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu ar gyfer cynorthwywyr dosbarth sydd yn gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.