Beth ydy’r Cynllun Sabothol?
Beth ydy’r Cynllun Sabothol?
Mae’r Cynllun Sabothol yn gwrs iaith ar gyfer
athrawon, hyfforddwyr, darlithwyr a chynorthwywyr dosbarth sydd eisiau
gwella eu Cymraeg a magu hyder yn yr iaith.
Nod y cwrs ydy datblygu a gloywi iaith ymarferwyr addysg, mamiaith ac ail iaith,
er mwyn iddyn nhw deimlo’n hyderus i addysgu
a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar gyfer pwy mae’r
Cynllun Sabothol?
Mae’r cwrs uwch ar gyfer
siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr sy’n
gallu siarad Cymraeg yn eithaf rhugl ac
sy’n gweithio yn y sector cynradd, uwchradd ac addysg bellach.
Mae’r cwrs yn agored i:
- athrawon a darlithwyr llawn amser
- athrawon a darlithwyr rhan amser
- staff cwmnïau hyfforddi
- athrawon newydd gymhwyso *
- staff cyflenwi *
- cynorthwywyr dosbarth *
Mae'r Cwrs Sylfaen ar gyfer athrawon cynradd ail-iaith sy'n gallu siarad ychydig o Gymraeg (ar lefel Mynediad) yn barod.
Mae'r Cwrs Mynediad ar gyfer cynorthwywyr dosbarth ail-iaith sydd heb unrhyw Gymraeg neu ychydig iawn o Gymraeg.
Pwy sy’n talu?
Mae’r cwrs am ddim. Llywodraeth Cymru
sy’n gyfrifol am holl gostau’r hyfforddiant
gan gynnwys costau cyflenwi, teithio a llety.