Sut i wneud cais
Unwaith y byddwch wedi cytuno gyda'ch pennaeth neu reolwr llinell ynglŷn â'r angen am hyfforddiant, mae'r broses o wneud cais yn syml.
Mae ffurflenni cais ar gael gan cynllunsabothol@cymru.gsi.gov.uk.
Bydd yr Adran Addysg yn gadael i chi wybod eu bod wedi derbyn eich cais ac yn ei werthuso yn erbyn y meini prawf. Yn dilyn hynny, byddwch yn cael cyfweliad anffurfiol dros y ffôn gydag un o'r tiwtoriaid yn y tair canolfan. Pwrpas y cyfweliadau hyn yw sicrhau bod lefel eich iaith yn addas ar gyfer y cwrs.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gadael i chi wybod a ydych chi wedi cael lle ar y cwrs o fewn 6 wythnos o dderbyn eich cais.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gadarnhau’r cyfnod sabothol / hyfforddiant gyda’r pennaeth / rheolwr llinell cyn gynted â phosibl.