Llinell Gymorth
Mae’r llinell gymorth hon ar gyfer ymarferwyr sydd wedi dilyn un o gyrsiau uwch y Cynllun Sabothol. Pwrpas y llinell yw rhoi cefnogaeth ieithyddol iddyn nhw ar ôl gorffen y cwrs.
Os ydych chi wedi bod ar un o’r cyrsiau ac os oes gennych chi gwestiwn gramadegol, defnyddiwch y ffurflen sydd ar y dudalen hon. Bydd y tiwtoriaid yn ceisio ateb pob cwestiwn o fewn un diwrnod gwaith. Byddwn yn cyhoeddi’r ymholiad a’r ateb ar y wefan hon, gan greu adran ddefnyddiol o gwestiynau ac atebion ar ramadeg y Gymraeg.